Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 4 Mawrth 2021
Amser:
09.15
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Llinos Madeley
Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
SeneddPPIA@senedd.cymru
------
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae’r Cadeirydd wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
(09.15)
2 COVID-19: iechyd meddwl ac iechyd corfforol
(09.15 - 10.45) (Tudalennau 1 - 10)
Yr Athro Ann John, Athro Iechyd y Cyhoedd a Seiciatreg yn Ysgol
Feddygol Prifysgol Abertawe a Chadeirydd y Grŵp Cynghori
Cenedlaethol i Lywodraeth Cymru ar atal hunanladdiad a
hunan-niweidio
Yr Athro Alka Ahuja, Seiciatrydd Ymgynghorol Plant a’r Glasoed, ac Arweinydd Clinigol Cenedlaethol, Gofal a Alluogir gan Dechnoleg (TEC Cymru), ac Arweinydd Ymgysylltu â'r Cyhoedd, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru
Yr Athro Adrian Edwards, Athro Ymarfer Cyffredinol ym Mhrifysgol Caerdydd, a Chyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth newydd Cymru ar gyfer COVID-19, Cyfarwyddwr Canolfan PRIME Cymru (canolfan Cymru gyfan ar gyfer ymchwil gofal sylfaenol a gofal brys) a meddyg teulu rhan amser
Dr David Tuthill, Pediatregydd Ymgynghorol a Swyddog Cymru yng Ngholeg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant
Dogfennau atodol:
Briff Ymchwil
3 Papurau i’w nodi
(10.45)
3.1 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch atgyfeiriadau diogelu a phlant sy'n derbyn gofal
(Tudalennau 11 - 14)
Dogfennau atodol:
CYPE(5)-07-21 - Papur i'w nodi 1
3.2 Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc yn dychwelyd i addysg
(Tudalennau 15 - 16)
Dogfennau atodol:
CYPE(5)-07-21 - Papur i'w nodi 2
3.3 Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch adolygiad o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn arfer ei swyddogaethau: Addysg yn y cartref ac ysgolion annibynnol
(Tudalennau 17 - 18)
Dogfennau atodol:
CYPE(5)-07-21 - Papur i'w nodi 3
3.4 Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Adroddiad ar gydymffurfiaeth â'r ddyletswydd o dan adran un o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011
(Tudalennau 19 - 63)
Dogfennau atodol:
CYPE(5)-07-21 - Papur i'w nodi 4
3.5 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Addysg ynghylch gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
(Tudalennau 64 - 65)
Dogfennau atodol:
CYPE(5)-07-21 - Papur i'w nodi 5
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
(10.45)
5 COVID-19: Trafod y dystiolaeth
(10.45 - 11.00)